Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                         Nid yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt adrodd technegol. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y diwygiad yn effeithiol yn gyfreithiol, a bod yr ystyr a fwriedir yn glir yn y cyd-destun. Mae’r diwygiad yn cwmpasu person sydd wedi ei gofrestru mewn o leiaf un “categori cofrestru”. Diffinnir hyn yn adran 41(1) o’r Ddeddf alluogi drwy gyfeirio at adran 9(3) o’r Ddeddf honno.